Mae gan dîm newyddion y Senedd lyfrgell o ddelweddau stoc sydd ar gael i’w defnyddio gan y cyfryngau.
Mae llyfrgell luniau ar gael ar albwm Flickr Senedd Cymru / Welsh Parliament
Ymhlith y lluniau mae:
- Lluniau pob Aelod o'r Senedd
- Cyfarfodydd y Senedd yn y Siambr
- Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru
- Digwyddiadau cyhoeddus mawr ar ystâd y Senedd
- Lluniau o du mewn a thu allan adeilad y Senedd
Mae’r lluniau ar gael yn rhad ac am ddim, gyda chredyd i Gomisiwn y Senedd / Senedd Commission. Mae esboniad am yr amodau, gan gynnwys manylion hawlfraint, ar gael yma.
Caiff yr holl luniau o Aelodau o’r Senedd presennol a chyn Aelodau eu rhyddhau o dan Drwydded Attribution 4.0 International Creative Commons. Darllenwch mwy am yr amodau.
Fideo a sain
Mae modd clipio, rhannu a lawr lwytho fideo o gyfarfodydd cyhoeddus y Senedd a’r Pwyllgorau oddi ar Senedd.tv
Gallwch fewnosod y fideo ar wefan arall neu ei rannu ar rwydweithiau cymdeithasol. Darllenwch gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn.
Mae hawl defnyddio clipiau fideo a sain gan Senedd.tv drwy gydymffurfio a hawlfraint y Comisiwn a'r Telerau Defnyddio.
Cewch olygu cynnwys clipiau a lawr lwythwyd i fformatau gwahanol er mwyn eu gwylio, a chewch gymryd camau i wella hygyrchedd y deunydd, gan gynnwys ychwanegu penawdau a/neu isdeitlau, yn amodol ac yn unol â’r Telerau. Ni chaniateir addasu, newid na thrin deunydd mewn unrhyw ffordd arall.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod ceisiadau penodol, cysylltwch â thîm newyddion y Senedd.